Siarad yn Broffesiynol 2026: beth mae angen i addysgwyr ei wybod am roi hawliau plant ar waith
Online
Wednesday 21st October 2026
Read information about this event in English.
Caiff Cymru ei chydnabod yn rhyngwladol am ei hymrwymiad i hawliau plant, gyda gweledigaeth i bob plentyn a pherson ifanc gael ei glywed, ei barchu, a’i fod yn gallu ffynnu.
Ymunwch â ni wrth i ni groesawu Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes MBE, i Siarad yn Broffesiynol. Bydd hi’n archwilio’r hyn y mae plant a phobl ifanc ledled Cymru yn ei ddweud wrthym ni am eu profiadau o addysg, a beth mae hyn yn ei olygu i’r rheiny sy’n gweithio gyda nhw, ac yn eu cefnogi.
Gan ddefnyddio tystiolaeth a gasglwyd yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc, bydd Rocio yn trafod rôl swydd Comisiynydd Plant Cymru, a phwysigrwydd dull yn seiliedig ar hawliau ar gyfer addysg a gwaith ieuenctid. Bydd y sesiwn hefyd yn myfyrio ar heriau sy’n wynebu dysgwyr ar hyn o bryd, ac yn ystyried y camau ymarferol y gall gweithwyr proffesiynol eu cymryd i gynnal a hyrwyddo hawliau plant yn eu gwaith bob dydd.
Bydd adran holi ac ateb ar ddiwedd y digwyddiad, lle byddwch yn cael cyfle i ofyn eich cwestiynau yn uniongyrchol i Rocio.
Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer yr holl gofrestreion a bydd hefyd o ddiddordeb i’r sector addysg ehangach, yn ogystal â’r rheiny sydd â diddordeb mewn hawliau plant.