WLGA training - Understanding and Using Performance Data

Online
Wednesday 20th January 2027
Cwrs hyfforddi CLlLC (Data Cymru gynt): Deall a defnyddio data perfformiad

Cwrs cyflwyniadol, lefel uchel, yw hwn sy’n cael ei anelu at ddechreuwyr a’r sawl sydd ond yn dechrau defnyddio data. Mae’n fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddulliau a’i gynnwys. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata nac ystadegau.

Mae data perfformiad yn gadael i chi ddeall i ba raddau rydych yn bodloni amcanion eich sefydliad a ble mae angen i chi wella o bosibl. O’i ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol, mae’n gadael i chi wneud yn siŵr bod anghenion yn cael eu diwallu a bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio’n ddoeth.

Yn yr un modd ag unrhyw ddata, mae’n bwysig bod gennym ni’r data cywir a’n bod yn gallu ei ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae ein cwrs hyfforddiant yn cynnig arweiniad ymarferol i helpu i feithrin sgiliau a hyder wrth ddeall, herio a defnyddio data.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch chi’n deall:
  • beth yw data perfformiad a sut mae dod o hyd iddo
  • beth mae angen i chi ei ystyried wrth weithio gyda data perfformiad
  • sut i ddefnyddio data perfformiad.
Sylwch, bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg yn unig. Os oes unrhyw un yn cyflwyno yn Gymraeg, neu os yw o leiaf 10% o’r rhai sy’n mynychu o’r tu allan i CLlLC yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael. Er mwyn caniatáu amser i ni drefnu’r gwasanaeth hwn, os byddwch yn cofrestru i fynychu’r sesiwn hyfforddi hon ar ôl 13/01/2027, efallai na fyddwn yn gallu cynnwys unrhyw ddewis iaith wrth ystyried a oes angen cyfieithu ar y pryd. Bydd yr holl ddeunyddiau ar gael yn Gymraeg. Bydd y cwrs yn para tua 1.5 awr. Archebu lle yn cau ar 19 Ionawr 2027.

Gofynion cwrs hyfforddiant
Er mwyn sicrhau y cewch chi’r profiad gorau ar ein hyfforddiant, gofynnwn y canlynol:
  • Ymrwymwch i fynychu hyd llawn yr hyfforddiant.
  • Os na allwch ddod i’r hyfforddiant bellach, e-bostiwch [email protected] cyn gynted â phosib (yn achos lleoedd ar gyrsiau am dâl, gweler ein polisi canslo).
  • Bydd gwahoddiad calendr Teams yn cael ei anfon o leiaf 7 diwrnod cyn yr hyfforddiant – gwiriwch eich ffolder e-bost sothach. Os nad ydych wedi derbyn y gwahoddiad hwn, rhowch wybod i ni.
  • Profwch eich mynediad i Teams.
  • Bydd hyfforddiant yn cychwyn yn brydlon, felly cyrhaeddwch mewn pryd, gan ei bod yn bosib na fydd y sawl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn.
  • Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol ac yn ymgysylltiol felly gofynnwn i bob cyfranogwr droi eu camera ymlaen, lle bo’n bosib, a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau meicroffôn a sgwrsio.
  • Mae’n bosibl y bydd rhaid i ni ganslo neu newid amserlen cwrs hyfforddiant. Os bydd hyn yn digwydd, rhoddwn wybod i chi cyn gynted ag y gallwn a chynigiwn opsiynau eraill.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, e-bostiwch Róisín Roberts [email protected] neu ffoniwch 029 2090 9500.

Byddwn ni (CLlLC) yn defnyddio unrhyw wybodaeth a roddir i gydgysylltu â chi ynghylch â'r cwrs hwn a byddwn yn storio’r wybodaeth hon nes bod y cwrs drosodd. Byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â chydweithwyr perthnasol CLlLC a hwyluswyr allanol eraill, yn ôl yr angen. Rydym yn prosesu data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Mae ein hysbysiad preifatrwydd ni ar gael ar ein gwefan (https://www.wlga.cymru/wlga-privacy-notice). 

************************************************************************************************************************************************

WLGA training (formerly Data Cymru): Understanding and Using Performance Data

This is a high-level, introductory course aimed at beginners and those new to using data. It is intentionally ‘basic’ in its approach and content. No previous knowledge of data or statistics is required.

Performance data allows you to understand the extent to which you are meeting the authority’s objectives and where you might need to improve. When understood and used effectively, it allows you to make sure needs are being met and that public funds are being used wisely.
As with all data, it’s important, that we have the right data and that we can understand and use it effectively. Our training course offers practical guidance to help build skills and confidence in understanding, challenging and using data.

By the end of the course, you will understand:
  • what performance data is and how to find it
  • what you need to consider when working with performance data
  • how to use performance data.
Please note, this course will be delivered in English only. If anyone is presenting in Welsh, or if at least 10% of those attending from outside WLGA wish to use Welsh, simultaneous translation from Welsh to English will be made available. To allow us time to arrange this service, if you register to attend this training session after 13/01/2027, we may be unable to include any language preferences when considering whether simultaneous translation is required. All materials will be available in Welsh. The course will last about 1.5 hours. Booking closes on 19 January 2027.

Training course requirements
To ensure you have the best experience on our training we ask the following:
  • Commit to attend the full duration of the training.
  • If you are no longer able to attend the training, please email [email protected] ASAP (for paid course places please see our cancellation policy).
  • A Teams calendar invite will be sent at least 7 days prior to the training – please check your junk email folder. If you have not received this invite, please let us know.
  • Test your access to Teams.
  • Training will commence promptly, so please arrive on time, as late arrivals may not be admitted.
  • Our courses are interactive and engaging and we request where possible, that all participants have camera’s on and participate via microphone and chat facilities.
  • We may have to cancel or change the schedule of a training course. If this happens, we'll let you know as soon as we can and provide other options.
If you have any questions about this course, please email Róisín Roberts [email protected] or call 029 2090 9500.

We (WLGA) will use any information you provide to us to liaise with you regarding this course and we will store this information until the course has taken place. We will share your information with relevant WLGA colleagues and other external facilitators, as necessary. We process personal data in accordance with the Data Protection Act 2018. Our privacy policy is available on our website (https://www.wlga.wales/wlga-privacy-notice). 
Price

Place price incl. booking fee
£0.00 - £54.20