The Trial of Dhegdheer (with / gyda BSL & Audio Description)
The Grange Pavilion, Cardiff, CF11 7LJ
Saturday 13th June 2026
| What happens when folklore, AI video and public panic decides who’s guilty? The Trial of Dhegdheer is a bold new opera created with the communities of Grangetown and Butetown over recent months, in collaboration between FIO Theatre and Music Theatre Wales. A Cardiff woman finds herself on trial for “stealing and eating local children”. Believing she is there for using the wrong recycling bags, she watches bewildered as the Somali folktale of Dhegdheer and fake AI videos are brought into evidence to accuse her of abduction and cannibalism. The new fast track trial is furiously driven by the Prosecutor, the jury has 30 minutes to decide, can her Butetown defence lawyer Ali Star stop yet another miscarriage of justice? Created with participants from Grangetown and Butetown, The Trial of Dhegdeer brings together local stories, music and voices in a 100% local opera that asks big questions about justice, truth and who gets believed. Featuring a Buraanbur singer alongside local community and performers, this is opera shaped in Cardiff, made in Cardiff and shared in Cardiff. Written by Ali Goolyad. Directed by Mathilde López. Composed by Ani Glass, Eadyth and Robert Fokkens. | Beth sy’n digwydd pan mae llên gwerin, fideo AI a phanig cyhoeddus yn penderfynu pwy sy’n euog? Mae The Trial of Dhegdheer yn opera newydd feiddgar a grëwyd gyda chymunedau Grangetown a Threbiwt dros y misoedd diwethaf, mewn cydweithrediad rhwng FIO Theatre a Music Theatre Wales. Mae dynes o Gaerdydd yn cael ei rhoi ar brawf am “ddwyn a bwyta plant lleol”. Gan gredu ei bod yno oherwydd iddi ddefnyddio’r bagiau ailgylchu anghywir, mae’n gwylio mewn dryswch wrth i chwedl Somalïaidd Dhegdheer a fideos AI ffug gael eu cyflwyno fel tystiolaeth i’w chyhuddo o herwgipio a bwyta plant. Yr Erlynydd ffyrnig sydd tu ôl i lyw yr achos, a dim ond 30 munud sydd gan y rheithgor i benderfynu. A all ei chyfreithiwr o Drebiwt, Ali Star, atal camwedd cyfiawnder arall? Wedi’i chreu gyda chyfranwyr o Grangetown a Threbiwt, mae The Trial of Dhegdheer yn dod â straeon, cerddoriaeth a lleisiau lleol ynghyd mewn opera 100% leol sy’n gofyn cwestiynau mawr am gyfiawnder a gwirionedd. Gyda chantores buraanbur ochr yn ochr â pherfformwyr a chymuned leol, mae hon yn opera a luniwyd yng Nghaerdydd, a grëwyd yng Nghaerdydd ac a rennir yng Nghaerdydd. Wedi’i hysgrifennu gan Ali Goolyad, wedi’i chyfarwyddo gan Mathilde López, a gyda cherddoriaeth gan Ani Glass, Eadyth a Robert Fokkens. |