Cyfathrebu’r Hinsawdd | Communicating Climate
Ystafell Oriel / Oriel Suite, Cardiff, CF10 3NP
Thursday 26th November 2026
Sesiwn Rhwydwaith Diwylliant a Hinsawdd Cymru gan Ddiwylliant a Hinsawdd mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru
Ymunwch â ni am ddiwrnod o drafod, cydweithio a meddwl ymarferol ynglŷn â sut y gall sector diwylliannol Cymru ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Bydd y diwrnod yn dod â sefydliadau, ymarferwyr a phartneriaid o bob rhan o'r sector ynghyd i archwilio dau faes allweddol: sut y gallwn gyfrannu ar y cyd at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei alwad am dystiolaeth i ddangos angen am Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd, a sut y gall diwylliant, casgliadau ac adrodd straeon ein helpu i gyfleu newid hinsawdd mewn ffyrdd sy'n cysylltu â phobl ac yn ysbrydoli gweithredu. Mae Cyfathrebu'r Hinsawdd yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, pob un yn archwilio thema wahanol.
Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i fod yn gydweithredol ac yn gyfranogol, gyda lle i rannu profiadau, creu cysylltiadau a chyfrannu at gyfeiriad Culture and Climate Cymru yn y dyfodol.
Mae mynychu'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ac rydym am iddo fod yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Gallwch gymryd rhan trwy’r Gymraeg neu Saesneg, gyda chyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gael drwy gydol y dydd.
Gellir darparu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) hefyd os gwneir cais amdano. Rhowch wybod i ni am unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch o ran iaith, hygyrchedd, cyfathrebu neu gymryd rhan wrth i chi gofrestru, neu anfonwch e-bost at [email protected] erbyn dydd Iau 12 Tachwedd fel bod gennym amser i wneud trefniadau.
|
Communicating Climate: Culture and Climate Cymru Network Session by Culture and Climate Cymru in partnership with Amgueddfa Cymru | Museum Wales
Join us for a day of discussion, collaboration and practical thinking around how Wales's cultural sector can respond to the climate and nature emergencies.
The day will bring together organisations, practitioners and partners from across the sector to explore two key areas: how we can contribute collectively to the Welsh Government's call for evidence for a new Culture and Sport Strategy, and how culture, collections and storytelling can help communicate climate change in ways that connect with people and inspire action. Communicating Climate is part of a series of in-person events, each with a different thematic focus. A further four events are planned over the next 18 months.
The event is designed to be collaborative and participatory, with space to share experiences, make connections and contribute to the future direction of Culture and Climate Cymru.
This event is free to attend, and we want it to be welcoming, inclusive and accessible to everyone. You can take part in either Welsh or English, with simultaneous translation from Welsh to English available throughout the day.
British Sign Language (BSL) interpretation can also be provided on request. Please let us know about any language, access, communication or participation support you need when you register, or email [email protected] by Thursday 12th November so we have time to make arrangements.

| RHAGLEN | PROGRAMME |
| 10:00am Cofrestru a choffi | 10:00am Registration and coffee |
| 10:30am Sesiwn 1 - Ymateb rhwydwaith i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon Cyfle i ddod ynghyd fel sector i rannu safbwyntiau a nodi'r blaenoriaethau, yr heriau a'r cyfleoedd y dylid eu cynnwys mewn ymateb ar y cyd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon | 10:30am Session 1 - A network response to the Welsh Government Culture and Sport Strategy consultation A chance to come together as a sector to share perspectives and identify the priorities, challenges and opportunities that should form part of a collective response to the Welsh Government’s Culture and Sport Strategy consultation. |
| 12:30pm Cinio (wedi’i ddarparu) | 12:30pm Lunch (provided) |
| 1:30pm Sesiwn 2 - Cyfathrebu'r Hinsawdd Golwg ar sut y gallwn ddefnyddio casgliadau a straeon i eiriol dros newid Sut ydyn ni'n cyfathrebu newid hinsawdd mewn ffyrdd sy'n teimlo'n berthnasol, yn ddynol ac wedi'u gwreiddio ym mywydau bob dydd pobl? Bydd y sesiwn hon yn cynnwys prif gyflwyniadau a sesiynau grŵp wedi’u harwain gan amrywiaeth o siaradwyr yn archwilio'r rôl y gall diwylliant, treftadaeth, casgliadau ac adrodd straeon ei chwarae wrth helpu pobl i ddeall newid hinsawdd a dychmygu dyfodol gwahanol. Byddwn yn ystyried sut y gall y gwrthrychau, atgofion, tirweddau a straeon rydym yn eu cadw ein helpu i gyfathrebu'r argyfyngau hinsawdd a natur, cysylltu'r gorffennol â'r presennol, ac eiriol dros newid. Byddwn hefyd yn gofyn pa straeon sy'n cael eu hadrodd, lle gallai lleisiau fod ar goll, a sut y gall yr iaith Gymraeg, hunaniaeth, lle a threftadaeth helpu i lunio sgyrsiau mwy ystyrlon am yr hinsawdd | 1:30pm Session 2 - Communicating Climate A look at how we can use collections and stories to advocate for change How do we communicate climate change in ways that feel relevant, human and rooted in people's everyday lives? This session will consist of keynote presentations and breakout sessions led by a range of speakers exploring the role that culture, heritage, collections and storytelling can play in helping people understand climate change and imagine different futures. We'll consider how the objects, memories, landscapes and stories we preserve can help us communicate the climate and nature emergencies, connect past and present, and advocate for change. We'll also ask whose stories are being told, whose voices may be missing, and how the Welsh language, identity, place and heritage can help shape more meaningful conversations about climate. |
| 4:00pm Crynodeb o'r dydd a'r camau nesaf Byddwn yn dwyn ynghyd y syniadau a'r blaenoriaethau sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y dydd, ac yn ystyried yr hyn y gallwn ei ddatblygu gyda’n gilydd trwy rwydwaith Diwylliant a Hinsawdd Cymru. | 4:00pm Round-up of the day and next steps We'll bring together the ideas and priorities that have emerged during the day and consider what we can take forward collectively through the Culture and Climate Cymru network. |
| 4:30pm Diwedd | 4:30pm Finish |
Price
Ticket price
£0.00