An Afternoon With Meleri Wyn James - Welsh Language Event
Wrexham Library, Wrexham, LL11 1AU
Friday 7th November 2025
Dim Ond Un. When a family meets for a celebration in a cottage on Bardsey Island, for some it is a rare opportunity to see relatives, while it is a task to be unwillingly suffered for others. A stranger arrives at the cottage, and many secrets are revealed. A mystery about a family in isolation on an island with a murderer amongst them.
Pan fo teulu yn cwrdd am ddathliad arbennig mewn bwthyn ar ynys hudolus Enlli, mae'n gyfle prin i ddod ynghyd fel teulu i rai, ond i eraill mae'n orchwyl y mae'n rhaid ei diodde'n anfoddog. Yng nghanol y storm daw dieithryn i'r drws, a daw sawl cyfrinach i'r wyneb yn ystod eu cyfnod clawstroffobig ar yr ynys.
Mae Meleri Wyn James yn awdur sydd wedi ysgrifennu llyfrau i blant ac oedolion ers dros 25 mlynedd. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Catrin Jones yn Unig, restr fer Nofel 2000 Gwasg Gomer. Roedd yn rhaid ail argraffu'r nofel gan ei bod mor boblogaidd. Roedd ei nofel St@fell i bobl ifanc, hefyd ar restr fer Gwobr Tir na n-Og. Meleri hefyd yw awdures y gyfres boblogaidd Na,Nel! i blant oed cynradd sydd bellach hefyd yn sioe lwyfan. Enillodd Meleri hefyd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 am ei nofel Hallt.